Mick Antoniw AS
 Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
15 Chwefror 2022

 

Annwyl Mick

Cynorthwyo’r Pwyllgor wrth gynllunio ei waith ar gyfer y dyfodol

Diolch i chi am ymddangos unwaith eto gerbron y Pwyllgor ar 31 Ionawr i drafod fframweithiau cyffredin ac adolygiad Llywodraeth y DU o gyfraith yr UE a ddargedwir.

Mae’r naill fater a’r llall o bwys i’r pwyllgor, ochr yn ochr â’n gwaith craffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a memoranda cydsyniad deddfwriaethol hefyd. Wrth ystyried y nifer mawr o waith craffu deddfwriaethol o dan sylw – sy’n eistedd ochr yn ochr â’n gwaith craffu ar feysydd polisi o fewn ein cylch gorchwyl – mae’n hanfodol ein bod ni’n pennu blaenraglen waith.

Fe fyddwch chi’n ymwybodol o’n pryderon mewn perthynas â nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Biliau’r DU sydd wedi’u gosod gerbron y Senedd gan Lywodraeth Cymru, ac y cawsant eu cyfeirio atom ni wedi hynny i gynnal gwaith craffu arnynt.

Er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o gynllunio ar gyfer yr agwedd hon ar ein gwaith craffu yn y dyfodol, byddem yn ddiolchgar, felly, pe gallech gymryd y camau canlynol:

§    rhannu eich disgwyliad ynghylch i ba raddau y bydd y nifer presennol o femoranda sy’n cael eu gosod yn parhau, gan ystyried sesiwn newydd Senedd y DU sydd i ddod ac Araith y Frenhines wedi hynny;

§    ymrwymo i restru’r Biliau hynny gan Lywodraeth y DU (unwaith y bydd y manylion ar gael yn gyhoeddus) y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu defnyddio fel cyfrwng deddfwriaethol i roi effaith i’w hagenda bolisi, gan gynnwys yn unol â’i Rhaglen Lywodraethu;

§    esbonio’r modd yr ydych yn bwriadu rhoi gwybod i ni fel mater o drefn am eich penderfyniad i ddefnyddio Biliau Llywodraeth y DU yn y dyfodol sy’n debygol o fod yn destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ynghyd â’r cam pan fyddwch yn dechrau gweithio gyda Llywodraeth y DU.

Yn yr un modd, byddem yn ddiolchgar pe gallech egluro sut yr ydych yn bwriadu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ddatblygiadau eraill sy’n ymwneud â’ch cyfrifoldebau fel Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Byddem yn croesawu ymateb cychwynnol erbyn 2 Mawrth, ond rydym yn cydnabod efallai na fyddwch yn gallu darparu manylion penodol ar Filiau yn y dyfodol hyd nes bod Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer sesiwn newydd Senedd y DU.

Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb, ac at barhau i gydweithio'n adeiladol.

Yn gywir,

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd